Gweithdrefnau

Mae'r dogfennau hyn yn amlinellu gofynion rheoleiddio gweithdrefnol. Caiff rhai meini prawf rheoleiddiol eu cymhwyso'n gyffredinol ac mae rhai yn gymwys i gymwysterau penodol.

Gweithdrefnau Cyffredinol

Rheolau am Geisiadau i Gydnabod Cyrff Dyfarnu
Mae'r ddogfen hon yn amlinellu'r gweithdrefnau ar gyfer Cydnabod Corff ac mae'n gymwys i unrhyw gorff dyfarnu sydd am wneud cais i gael ei gydnabod gennym ac i gael ei gymwysterau wedi'u rheoleiddio yng Nghymru.

Rheolau am Geisiadau i Dynodi Cymwysterau
Mae'r ddogfen hon yn nodi'r gweithdrefnau ar gyfer Cymeradwyo a Dynodi ac mae'n gymwys i gyrff dyfarnu cydnabyddedig sydd am wneud cais i gymhwyster gael ei gymeradwyo neu ei ddynodi.

Gweithdrefnau Cymhwyster Benodol

Y Gwasanaeth Adolygu Gweithdrefnau Arholi
Rhydd hyn gyfle i glywed dadl bod corff dyfarnu wedi methu â dilyn neu gymhwyso'r gweithdrefnau angenrheidiol priodol wrth farcio neu ddyfarnu cymwysterau TGAU, TAU, Bagloriaeth Cymru a Thystysgrifau Her Sgiliau, a/neu ei ymdriniaeth o Ymholiad ynghylch Canlyniadau neu apêl ddilynol.