Swyddi gwag presennol
Cyfleoedd recriwtio yn Cymwysterau Cymru.
Caiff ein holl swyddi gwag eu hysbysebu yma ac ar Twitter. Gofynnwn yn garedig i chi beidio ag anfon CV's ar hap oherwydd nad oes modd i ni eu cadw ar ffeil.
Gallwch lawrlwytho cyngor ar sut i wneud cais.
Ar hyn o bryd mae pob gweithiwr yn gweithio gartref yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth.
Ar hyn o bryd rydym yn adolygu beth fydd ein dull gweithredu pan fydd gweithleoedd yn dychwelyd i rywbeth mwy normal. Rydym yn ystyried opsiynau hyblyg ond nid yw'r rhain wedi'u penderfynu eto a bydd y rôl yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd weithio yn y swyddfa am gyfran o'r wythnos.
Swyddog Ymchwil
Band 3 - £30,600 - £37,410 y flwyddyn
Yn ogystal â chyflog, rydym yn cynnig 30 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ychwanegol at wyliau cyhoeddus a hyd at dri diwrnod lle bydd y swyddfa ynghau adeg y Nadolig), trefniadau gweithio hyblyg ac aelodaeth o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio fel rhan o'r tîm Ymchwil ac Ystadegau yn Cymwysterau Cymru. Diben y tîm yw datblygu a chyflwyno ymchwil ac ystadegau i gefnogi hyrwyddo prif nodau Cymwysterau Cymru mewn perthynas â chymwysterau a'r system gymwysterau. Mae'r tîm yn rhoi cyngor ar ymchwil ac ystadegau asesu a chymwysterau gyda'r nod o ddarparu sail dystiolaeth wrthrychol ar gyfer penderfyniadau rheoleiddiol a pholisi am gymwysterau yng Nghymru.
Bydd y Swyddog Ymchwil yn cefnogi'r tîm ymchwil a'r sefydliad ehangach mewn meysydd gwaith sy'n ymwneud ag ymchwil, ymgysylltu ac ymgynghori. Bydd gan ddeiliad y swydd ddiddordeb mewn ymchwil addysg, yn ddelfrydol mewn asesiad addysgol a bydd yn gweithio gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid allanol i helpu i sefydlu Cymwysterau Cymru ymhellach fel corff sy'n gweithio ar sail tystiolaeth ac sy'n cael ei gydnabod fel sefydliad blaenllaw ym maes ymchwil asesu.
Yn fwy penodol, bydd y rôl yn cynnwys cyfrifoldeb llawn am ymarferion mewnol bach a chyfraniadau at astudiaethau neu raglenni ymchwil mwy a gomisiynwyd.
I weld y swydd-ddisgrifiad llawn, cliciwch yma.
Darllenwch Sut i wneud cais yma.
Dyddiad cau: Hanner dydd – 26 Ebrill 2021
Cyfweliadau: Cynhelir y rhain ar-lein yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 12 Mai 2021