Cam 2 - Penderfynu pa gymwysterau fydd ar gael
Ein cam nesaf fydd ymgynghori ar gynigion ar gyfer:
- Y prif gymwysterau a ddylai fod ar gael i bobl ifanc 16 oed i'w hastudio o 2025 – gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gymwysterau TGAU.
Byddwn yn ymgynghori ar ein cynigion yn gynnar yn 2021 ac yn cynllunio i gadarnhau pa gymwysterau sydd eu hangen hwyrach yn 2021.
Byddwn yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth i ni ddatblygu ein cynigion. Fel rhan o'r ymgynghoriad, byddwn hefyd yn cynnal gweithgarwch ymgysylltu i esbonio a thrafod ein cynigion gydag ystod mor eang â phosibl o randdeiliaid.