Y diweddaraf ar Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru

Y llynedd, gwnaethom gyhoeddi adolygiad annibynnol o Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru. Roedd yr adolygiad wedi gwneud argymhellion ar sut y gellid gwella’r ffordd y caiff y cymwysterau hyn eu cyflwyno a’u dylunio. Yn y blog hwn, rydym yn crynhoi’r gwaith y mae angen i ni ei wneud o ran rhoi’r argymhellion ar waith a’n cynllun ar gyfer y misoedd i ddod.

Gwanwyn/Haf 2020  

Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym ni wedi bod yn brysur yn llunio ein cynigion ni am newid i’r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (THS) wrth baratoi am ymgynghoriad cyhoeddus yn yr hydref, penllanw ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid dros gyfnod o nifer o fisoedd.

Rydyn ni’n deall bod angen i’r THS Uwch sicrhau bod dysgwyr ac amrywiaeth eang o randdeiliaid yn gweddu’n dda i’w gilydd, gan gynnwys (ond nid yn unig) cyflogwyr a phrifysgolion, yn ogystal â bod yn gymhwyster gwydn sy’n cael ei werthfawrogi y gall Cymru ymfalchïo ynddo. Er mwyn deall yn well beth mae hynny’n ei olygu’n ymarferol, cwrddon ni â dysgwyr ac aelodau o’r gymuned fusnes ledled Cymru (cyn y cyfnod cloi). Rydyn ni hefyd wedi bod yn siarad â chynrychiolwyr o brifysgolion yng Nghymru a’r DU a gweithio gydag arbenigwyr asesu.

Er enghraifft, cynhaliom ni gyfres o frecwastau busnes ledled Cymru gydag amrywiaeth o gyflogwyr er mwyn gwella dealltwriaeth o’r model THS presennol, sefydlu’r math o sgiliau yr hoffai cyflogwyr eu cael a phenderfynu pa fathau o brofiadau sydd orau er mwyn datblygu’r sgiliau hyn. Mae’r math hwn o fewnbwn gan gyflogwr yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y THS yn parhau i fod yn berthnasol i ofynion newidiol y gweithle.

Ystyriom ni lais dysgwyr drwy ymweld â nifer o ysgolion ledled Cymru yn union cyn y cyfnod cloi. Cafodd y cyswllt hwn ei ddylunio i ddeall profiad dysgwyr oedd wedi cwblhau’r THS yn CA4 a bron â chwblhau’r THS Uwch, yn well. Dyma’r flwyddyn gyntaf pan fo dysgwyr yn y sefyllfa hon oherwydd cafodd y THS ei chymeradwyo i’w dysgu am y tro cyntaf yn 2015. Dechreuon ni ddeall sut mae’r cymhwyster yn datblygu rhwng CA4 ac Uwch o safbwynt dysgwyr, a sut maen nhw wedi elwa o’r profiadau mae’r THS yn eu cynnig.

Roedd hefyd yn galonogol gweld pa mor bwysig mae’r THS wedi bod i geisiadau prifysgol dysgwyr, wrth iddyn nhw ddefnyddio eu profiad o’r Prosiect Unigol a’r Heriau ar gyfer eu datganiadau personol a’u cyfweliadau, ac i ddysgu sut mae’r THS yn cael ei chynnwys yn eu cynigion prifysgol.

Rydyn ni wedi bod yn ymgysylltu’n fwy gyda phrifysgolion yn ystod yr wythnosau diwethaf drwy siarad â swyddogion derbyn a staff academaidd am agweddau penodol y THS sydd fwyaf gwerthfawr wrth baratoi dysgwyr ar gyfer addysg uwch. Mae hyn er mwyn sicrhau bod unrhyw ddiwygio sy’n cael ei wneud i’r THS yn unol â disgwyliadau’r THS. Mae cyfarfodydd diweddar gyda phrifysgolion yng Nghymru a Lloegr wedi bod yn gadarnhaol iawn yn hynny o beth.

Hefyd yn ystod mis Mawrth cynhaliwyd cyfarfod llawn Grŵp Ymarferwyr Bagloriaeth Cymru, ble wnaethon ni grynhoi’r cyfraniadau sylweddol mae’r grŵp wedi eu gwneud ac amlinellu’r camau pwysig nesaf ar gyfer y prosiect sy’n cynnwys ein hymgynghoriad cyhoeddus ar y THS Uwch yr hydref hwn.

Cafodd THS CA4 ei chynnwys fel rhan o’r ymgynghoriad Cymwys ar gyfer y Dyfodol a ddaeth i ben ym mis Chwefror. Mae’r adborth wrthi’n cael ei gasglu a’i brosesu, a bydd adroddiad ar y darganfyddiadau’n cael ei gyhoeddi cyn bo hir. Bydd angen i unrhyw newidiadau i THS CA4 ystyried y cwricwlwm cyfan.

Hoffem ni fynegi ein gwerthfawrogiad enfawr i’r holl ddysgwyr, ymarferwyr a rhanddeiliaid eraill sydd wedi rhoi o’u hamser i chwarae rhan wrth ein helpu ni i lunio ein cynigion. Mae gweld faint o sgìl, ymroddiad a brwdfrydedd sydd wedi mynd i mewn i ddarparu a chwblhau’r THS wedi bod yn ysbrydoliaeth.

Fel mae pawb yn gwybod, mae'r coronafeirws wedi amharu arnon ni’n sylweddol. Rydyn ni’n ffodus yn Cymwysterau Cymru bod y cyfle gennyn ni i barhau i weithio o bell ond rydyn ni’n deall yr effaith mae wedi ei chael ar y rheini mewn addysg a thu hwnt. Felly, oddi wrth bawb yn Cymwysterau Cymru, gobeithio eich bod chi a’r bobl sy’n agos atoch yn cadw’n ddiogel ac yn iach.  

Hydref 2019

Hwb i Sgiliau'r Dyfodol   

Dros y misoedd diwethaf rydym wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ystyried sut i wella cymwysterau Tystysgrif Her Sgiliau (THS) Uwch a Sylfaen/Cenedlaethol.  Rydyn ni hefyd wedi bod yn meddwl am yr ystod o gymwysterau Tystysgrif Her Sgiliau (y cymwysterau sydd wrth wraidd Bagloriaeth Cymru) sydd ar gael.   

Rhywbeth nad yw llawer o bobl yn ymwybodol ohono yw bod pedwar cymhwyster Tystysgrif Her Sgiliau gwahanol ar gael ar hyn o bryd.  Gall hyn ei gwneud hi'n anos esbonio beth yw Bagloriaeth Cymru a sut mae'r THS yn cyd-fynd â hi, yn enwedig gan mai dim ond un o nifer o gymwysterau yw'r THS sy'n rhan o ddyfarniad Bagloriaeth Cymru.  

Y pedwar cymhwyster THS sydd ar gael ar hyn o bryd yw: 

Cymhwyster THS

Pryd a ble yr astudir (fel arfer)

THS Sylfaen / Cenedlaethol

Ochr yn ochr â TGAU, gan ddysgwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11 mewn ysgolion.

THS Sylfaen (Ôl-16)

Ochr yn ochr â chymwysterau lefel 1 eraill gan ddysgwyr ôl-16 mewn chweched dosbarth a cholegau.

THS Cenedlaethol (Ôl-16)

Ochr yn ochr â chymwysterau lefel 2 eraill gan ddysgwyr ôl-16 mewn chweched dosbarth a cholegau.

THS Uwch

Ochr yn ochr â Safon Uwch a chymwysterau lefel 3 eraill mewn chweched dosbarth a cholegau.

Mae gwahaniaeth mawr yn nifer y dysgwyr sy'n astudio pob un o'r pedwar cymhwyster hyn. Er enghraifft, mae'r THS Uwch yn cael ei astudio gan oddeutu 12,000 o ddysgwyr bob blwyddyn, sef tua thri chwarter yr holl ddysgwyr sy'n astudio Safon Uwch a chymwysterau lefel 3 eraill mewn colegau a chweched dosbarth. Mae'r THS Sylfaen / Cenedlaethol yn cael ei astudio gan fwy na dwbl y nifer sy'n astudio'r un Uwch, gyda bron pob dysgwr Blwyddyn 11 yng Nghymru yn cwblhau'r cymhwyster mewn ysgolion. Dyna pam ein bod ni’n neilltuo amser ac ymdrech i'w gwneud nhw cystal ag y gallan nhw fod. 

Ar y llaw arall, ychydig iawn o ddysgwyr sy'n astudio'r THS Sylfaen (Ôl-16) a THS Cenedlaethol (Ôl-16).  Efallai bod yna lawer o resymau am hyn, ond gallai hyn fod oherwydd bod dysgwyr bellach yn gallu ail-sefyll cydrannau fersiwn cyfnod allweddol 4 mewn lleoliadau ôl-16. 

Rydym wedi penderfynu, gyda chytundeb gan CBAC a Llywodraeth Cymru, y bydd y THS Sylfaen (Ôl-16) a'r THS Cenedlaethol (Ôl-16) yn dod i ben y flwyddyn nesaf (o 31 Awst 2020). Mae hyn yn golygu mai'r dysgwyr a ddechreuodd ar eu cyrsiau ar gyfer y cymwysterau hyn ym mis Medi eleni fydd y garfan olaf i ddilyn y ddau gymhwyster hyn. Rydym wedi ysgrifennu at randdeiliaid allweddol i'w hysbysu o'r penderfyniad hwn. 

Bydd lleihau nifer y cymwysterau Tystysgrif Her Sgiliau o bedwar i ddau yn helpu i wneud Bagloriaeth Cymru yn symlach i'w deall a'i hegluro. A bydd hefyd yn caniatáu inni ganolbwyntio ein hymdrechion i gryfhau cynllun y cymwysterau Tystysgrif Her Sgiliau Cenedlaethol/ Sylfaen ac Uwch.  

Rydym yn gwneud cynnydd cyson ar ddatblygu syniadau ar gyfer newidiadau posibl. Eleni byddwn yn parhau i weithio ar y cyd ag ymarferwyr ac eraill i fireinio ein ffordd o feddwl. Byddwn yn ymgynghori ar gynigion ar gyfer newidiadau posibl yn 2020. Fel bob amser, byddwn yn parhau i'ch hysbysu trwy ein blog rheolaidd. 

Haf 2019

Mae cryn dipyn wedi bod yn digwydd ym maes Bagloriaeth Cymru ers ein diweddariad diwethaf. Cafodd ymchwiliad Pwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol i statws cymhwyster Bagloriaeth Cymru ei gyhoeddi ym mis Ebrilla oedd yn cadarnhau bod yna ‘rinwedd amlwg o astudio Bagloriaeth Cymru, yn enwedig o ran ehangder y sgiliau a ddatblygir gan ddysgwyr ar gyfer dysgu yn y dyfodol, cyflogaeth a bywyd.’ Mae’r adroddiad hefyd yn cydnabod y gwaith a wneir gennym i wella dyluniad Tystysgrif Her Sgiliau (‘y Dystysgrif’) Bagloriaeth Cymru.

Ers chwech mis rydym ni wedi bod yn gweithio gyda’r grŵp Dylunio a’r grŵp Ymarferwyr yn edrych yn benodol ar y fersiwn o’r Dystysgrif Her Sgiliau sy’n cael ei ddysgu mewn ysgolion wrth ochr y cymwysterau TGAU (fersiwn CA4). Rydym wedi ystyried sut i’w gwneud yn gydnaws â’r cwricwlwm, gan gynnwys pa sgiliau y dylai’r cymhwyster anelu tuag atynt. Rydym o’r farn y dylai barhau i ganolbwyntio ar yr un sgiliau â’r rhai cyfredol, h.y. ysgiliau ehangach y cyfeirir atynt yn y cwricwlwm, ond y gellid gwneud rhagor o waith defnyddiol i ddisgrifio’r sgiliau hynny’n fwy penodol.

Rydym hefyd wedi bod yn brysur yn codi ymwybyddiaeth a hybu dealltwriaeth o’r Dystysgrif gyda rhanddeiliaid. Yn ddiweddar, mi wnaethon ni gynnal seminar ar gyfer y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, y corff proffesiynol ar gyfer Adnoddau Dynol a datblygu pobol, i helpu egluro’r Dystysgrif Her Sgiliau i gyflogwyr Cymru.

Daeth criw da i’r seminar, ac mi wnaeth y rhai a oedd yno gadarnhau pwysigrwydd y sgiliau hynny y mae’r Dystysgrif wedi ei chynllunio i’w datblygu, ar gyfer y rheiny sy’n ymuno â’r gweithlu. Hefyd, mae Swyddog Ymgysylltu ag Adnoddau Dynol Cymwysterau Cymru yn parhau i godi ymwybyddiaeth am y Dystysgrif Her Sgiliau gyda phrifysgolion ledled y Deyrnas Unedig.

Tra bod yna lawer o waith eto i’w wneud cyn i ni ymgynghori ar ein cynigion ar gyfer newidiadau i’r Dystysgrif y flwyddyn nesaf, rydym yn hyderus bod y ffordd yn glir er mwyn gallu cyrraedd at ganlyniad llwyddiannus, diolch i’r llu o gyfraniadau cadarnhaol a gafwyd gan bawb hyd yma.

Gwanwyn 2019

Mae dechrau 2019 wedi bod yn gyfnod prysur a chynhyrchiol o ran pob agwedd ar y Dystysgrif Her Sgiliau. Mae ein gwaith i godi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru yn mynd rhagddo o hyd. Ym mis Chwefror, gwnaethom lansio ymgyrch radio mewn gorsafoedd lleol a chenedlaethol ac ar Spotify. Rydym wedi diweddaru ein gwefan i gynnwys straeon personol gan gyn-fyfyrwyr ynglŷn â'r ffordd y mae'r Dystysgrif Her Sgiliau wedi'u helpu. Gallwch hefyd ddarllen tystiolaeth gan brifysgolion a grwpiau cymunedol yn egluro pam eu bod yn gwerthfawrogi'r dystysgrif.  

Yn ystod y gwanwyn hwn, cyfarfuom â'n Grŵp Ymarferwyr unwaith eto. Wrth i ni ddiwygio dyluniad y Dystysgrif Her Sgiliau, hoffem ddeall sut mae'n gweithio'n ymarferol o safbwynt y rheini sy'n ei chyflwyno. Felly, gwnaethom ofyn i'r grŵp (sy'n cynnwys athrawon a chydlynwyr y Dystysgrif Her Sgiliau) i drafod cryfderau a gwendidau'r dystysgrif o safbwynt addysgu a dysgu. Roedd cysondeb calonogol yn yr adborth ar yr hyn sy'n cymell ac yn ennyn diddordeb myfyrwyr a pha fathau o brofiadau a gweithgareddau sy'n effeithiol ym maes datblygu sgiliau.  

Mae gwaith y Grŵp Dylunio wedi datblygu y tu hwnt i'r ystyriaethau dylunio o lefel uchel i adolygu agweddau penodol ar y Dystysgrif Her Sgiliau yn fwy manwl. Canolbwyntiwyd i ddechrau ar y diffiniadau o'r sgiliau hanfodol a chyflogadwyedd. Gwyddom y gallai eglurhad gwell o'r sgiliau hyn helpu i wella dealltwriaeth athrawon a dysgwyr ohonynt, cefnogi cynnydd o fewn ac ar draws lefelau ac egluro'r deilliannau dysgu a'r meini prawf asesu yn well. Mae'r grŵp hefyd yn ystyried y cysylltiad rhwng y sgiliau a phob un o Heriau'r Dystysgrif Her Sgiliau a'r Prosiect Unigol a'r ffordd y cânt eu hasesu.  

Ein camau nesaf fydd dechrau llywio cynigion ar gyfer newidiadau yn seiliedig ar ganlyniadau gwaith y Grŵp Dylunio a'r Grŵp Ymarferwyr. 

Gaeaf 2018-19

Rydym bellach wedi sefydlu ac wedi cyfarfod â Grŵp Dylunio Bagloriaeth Cymru newydd sy’n gyfrifol am ystyried a datblygu cynigion ar gyfer newidiadau i’r Dystysgrif Her Sgiliau. Mae’r Grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o GolegauCymru, Estyn, consortia addysg rhanbarthol Llywodraeth Cymru a CBAC. Mae pedwar arbenigwr ym maes cymwysterau sy’n seiliedig ar sgiliau ac asesiadau, rydym wedi’u comisiynu i roi cyngor ac arweiniad technegol, hefyd yn rhan o’r grŵp 
 
Cyfarfu’r grŵp am y tro cyntaf ym mis Tachwedd. Yn y cyfarfod hwn, gwnaethom gadarnhau diben a rôl y Grŵp ac, yn bwysig ddigon, y cyd-destun rydym yn gweithio ynddo o ystyried y gwaith sy’n mynd rhagddo i ddatblygu cwricwlwm newydd i Gymru. Dechreuodd y Grŵp ystyried beth y gellid ei wneud i fireinio a datblygu’r Dystysgrif Her Sgiliau ymhellach.  
 
Cafodd pob agwedd ar y Dystysgrif Her Sgiliau ei thrafod yn y cyfarfodydd. Roedd yn ddiddorol clywed amrywiaeth o safbwyntiau a oedd i gyd wedi’u llywio gan berthynas wahanol â’r cymhwyster; o’r rheini a oedd yn hollol newydd i’r cymhwyster i eraill a oedd wedi bod yn rhan o fersiynau etifeddol. Un o’r materion a gododd yn gyson drwy gydol y drafodaeth oedd cydnabod llwyddiannau’r Dystysgrif Her Sgiliau ac awydd i adeiladu ar hynny er mwyn ei gwella a’i hatgyfnerthu. Roedd ystyried profiad y myfyrwyr a’r athrawon yn ganolog i bob trafodaeth.  
 
Ochr yn ochr â’r Grŵp Dylunio y mae Grŵp Ymarferwyr Bagloriaeth Cymru. Mae’r Grŵp hwn yn cynnwys tua 25 o athrawon sydd wedi cyflwyno’r Dystysgrif Her Sgiliau o ystod eang o ysgolion a cholegau ledled Cymru. Mae ganddynt gyfoeth o brofiad o’r manteision a’r heriau sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r cymhwyster a’r hyn y mae angen ei wneud er mwyn ennyn diddordeb disgyblion, rhannu gwybodaeth â rhieni a rhoi trefn ar adnoddau sy’n golygu bod hwn yn fforwm perffaith i brofi cynigion y Grŵp Cynllunio a rhoi adborth er mwyn llywio datblygiadau.  
 
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Grŵp Ymarferwyr hwn yn y Canolbarth ym mis Tachwedd. Trafodwyd syniadau ar sut i ategu model cyfredol y Dystysgrif Her Sgiliau cyn ystyried beth y gellid ei wneud i’w fireinio a’i atgyfnerthu. Byddwn yn cyfarfod eto ym mis Chwefror 
 
Rhannwyd canlyniadau trafodaethau’r ddau Grŵp gyda’i gilydd. Rydym yn teimlo bod hon yn rhan bwysig o’r broses, am fod yn rhaid ystyried unrhyw newidiadau sy’n cael eu cyflwyno yn drylwyr, ar ôl gwaith cynllunio ac ymgysylltu gofalus, a hefyd yn ystyriol o’r cyd-destun addysg ehangach. Mae’n galonogol bod cryn dipyn o bethau’n gyffredin rhwng y meysydd y gwnaeth y ddau Grŵp eu nodi i’w gwella yn ogystal â rhai argymhellion newydd.  
 
Bydd y ddau grŵp yn cyfarfod eto ym mis Ionawr a mis Chwefror er mwyn cadarnhau cynigion ar gyfer sut y gellid gwella cynllun y Dystysgrif Her Sgiliau. Byddwn yn rhannu rhai o’r syniadau sy’n deillio o’r trafodaethau hynny yn ein diweddariad nesaf.