Canllawiau: beth y dylai ysgolion a cholegau ei wneud os amherir ar arholiadau neu asesiadau yn ddifrifol

Mae'r cynllun wrth gefn ar y cyd hwn ar waith i ddelio ag unrhyw amharu sylweddol a allai effeithio ar ymgeiswyr arholiadau.

Beth y dylai ysgolion a cholegau ei wneud os amherir ar arholiadau neu asesiadau yn ddifrifol 

Diweddarwyd 1 Hydref 2020 

Rydym wedi diweddaru'r ddogfen hon i gynnwys dolenni i dudalennau hapddigwyddiadau, iechyd a chymorth cysylltiedig COVID-19 a gyhoeddwyd gan yr Adran Addysg, Llywodraeth Cymru a'r llywodraeth yng Ngogledd Iwerddon. Fodd bynnag, nid ydym wedi diweddaru'r ddogfen hon mewn ffyrdd eraill, gan fod yr ethos cyffredinol yn dal i fod yn berthnasol. Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn ymwybodol o'ch cyfrifoldebau penodol am baratoadau a chynlluniau wrth gefn i ysgolion a chyngor gan gyrff iechyd cyhoeddus perthnasol, yn lleol ac yn genedlaethol. 

1. Cynlluniau wrth gefn

Dylai canolfannau fod yn barod os amherir ar arholiadau ac asesiadau eraill gan wneud yn siŵr bod staff yn ymwybodol o'r cynlluniau hyn. 

Wrth ddrafftio cynlluniau wrth gefn, dylai canolfannau ystyried y canllawiau canlynol:  

1.1 Canllawiau sy’n benodol i COVID 

1.2 Canllawiau cyffredinol ar hapddigwyddiadau   


2. Amharu ar asesiadau neu arholiadau

Yn absenoldeb unrhyw gyfarwyddyd gan y sefydliad dyfarnu perthnasol, dylech wneud yn siŵr y cynhelir unrhyw arholiad neu asesiad sydd wedi'i amserlenni os yw'n bosibl. Gallai hyn olygu y bydd angen symud i leoliadau amgen. 

Dylech drafod trefniadau amgen gyda’ch sefydliad dyfarnu: 

  • os na ellir cynnal yr arholiad neu'r asesiad 
  • os yw disgybl yn colli arholiad neu asesiad oherwydd argyfwng neu unrhyw ddigwyddiad y tu allan i reolaeth y disgybl 

Gweler hefyd: 

Camau y dylech eu cymryd

 

3.1 Cynllunio ar gyfer arholiadau 

Adolygu cynlluniau wrth gefn ymhell ymlaen llaw cyn pob arholiad neu gyfres o asesiadau. Ystyried sut y bydd y Ganolfan yn cydymffurfio â gofynion y sefydliadau dyfarnu, os caiff y cynllun wrth gefn ei ddefnyddio. 

3.2 Os amherir arnynt, dylid gwneud y canlynol: 

  1. Cysylltu â'r sefydliad(au) dyfarnu perthnasol a dilyn ei gyfarwyddiadau. 
  2. Cymryd cyngor, neu'n dilyn cyfarwyddiadau gan asiantaethau lleol neu genedlaethol perthnasol wrth benderfynu p'un a yw'r ganolfan yn gallu agor. 
  3. Penderfynu a ellir sefyll yr arholiad neu'r asesiad mewn lleoliad amgen, mewn cytundeb â'r sefydliad dyfarnu perthnasol, gan wneud yn siŵr y trosglwyddir y papurau cwestiynau neu'r deunyddiau asesu yn ddiogel i'r lleoliad hwnnw. 
  4. Os bydd y llefydd yn gyfyngedig yno, dylid blaenoriaethu'r myfyrwyr y byddai'r oedi hwn yn cael yr effaith fwyaf ar eu cynnydd os na fyddant yn sefyll eu harholiad neu asesiad ar yr amser priodol. 
  5. Os caiff lleoliad ei wacáu yn ystod arholiad, cyfeirio at Ganllawiau Cyd-bwyllgor Cymwysterau ar adael yr ystafell arholiad neu asesiad mewn argyfwng hwn. 
  6. Cyfathrebu â rhieni, gofalwyr a myfyrwyr ynglŷn ag unrhyw newidiadau i amserlen yr arholiad neu'r asesiad . 
  7. Cyfathrebu ag unrhyw aseswyr allanol neu drydydd partïon perthnasol ynglŷn ag unrhyw newidiadau i amserlen a/neu leoliad yr arholiad neu'r asesiad. 

 3.3 Yn dilyn yn arholiad, dylid gwneud y canlynol: 

  1. Ystyried a yw hyn wedi effeithio ar allu'r myfyrwyr i gwblhau'r asesiad a/neu i arddangos lefel eu cyrhaeddiad, ac os felly, dylid gwneud cais am ystyriaeth arbennig. 
  2. Cynghori myfyrwyr, lle bo'n briodol, o'r cyfleoedd i sefyll eu harholiad neu asesiad yn ddiweddarach. 
  3. Sicrhau y caiff sgriptiau eu cadw dan amodau diogel. 
  4. Dychwelyd sgriptiau i sefydliad dyfarnu yn unol â'u cyfarwyddiadau. Peidio â gwneud trefniadau amgen ar gyfer trosglwyddo sgriptiau arholiad wedi'u cwblhau, oni ddywedir wrthynt wneud hynny gan sefydliad dyfarnu. 

4. Camau y dylai’r sefydliadau dyfarnu eu cymryd: 

 

4.1 Cynllunio ar gyfer arholiadau: 

  1. Sefydlu a chynnal cynllun ysgrifenedig wrth gefn cyfredol a chydymffurfio ag ef bob amser. 
  2. Sicrhau bod trefniadau ar waith gyda chanolfannau a thrydydd partïon eraill er mwyn eu galluogi i gynnal a dyfarnu cymwysterau yn unol â'u hamodau cydnabod. 

4.2 Os amherir arnynt, dylid gwneud y canlynol: 

  1. Cymryd yr holl gamau rhesymol er mwyn lleihau unrhyw effaith andwyol mewn perthynas â'u cymwysterau os amherir arnynt. 
  2. Darparu canllawiau effeithiol i unrhyw un o'u canolfannau sy'n cyflwyno'r cymwysterau. 
  3. Mewn achos o asesiad dan amodau penodol, dylai myfyrwyr ei gwblhau dan yr amodau hynny (heblaw pan fydd unrhyw addasiadau rhesymol neu ystyriaeth arbennig yn gofyn am amodau amgen). 
  4. Rhoi gwybod i'r rheoleiddwyr perthnasol yn brydlon am unrhyw ddigwyddiad a allai gael effaith andwyol ar fyfyrwyr, safonau neu hyder cyhoeddus. 
  5. Cyd-drefnu'r broses o gyfathrebu â'r rheoleiddiwr/rheoleiddwyr perthnasol pan fydd yr amhariad wedi cael effaith ar nifer o ganolfannau a/neu ar ystod eang o ddysgwyr. 

4.3 Yn dilyn yn arholiad, dylid gwneud y canlynol: 

  1. Ystyried unrhyw geisiadau am ystyriaeth arbennig i'r myfyrwyr yr effeithir arnynt. Er enghraifft, y rheiny a allai fod wedi colli eu gwaith a aseswyd yn fewnol neu'r rheiny y gallai'r amhariad fod wedi effeithio ar eu perfformiad mewn asesiadau ac arholiadau. 

5. Beth sy'n digwydd os bydd myfyrwyr yn colli arholiad neu dan anfantais yn sgil yr amhariad?

 

Os caiff yr amhariad effaith andwyol ar rai myfyrwyr, dylai canolfannau ofyn i'r sefydliad dyfarnu wneud cais am ystyriaeth arbennig. 

Cyfrifoldeb pob sefydliad dyfarnu yw gwneud penderfyniadau ynglŷn ag ystyriaeth arbennig, hynny yw os yw'n addas neu beidio. Efallai y bydd eu penderfyniadau'n wahanol ar gyfer gwahanol gymwysterau ac ar gyfer gwahanol bynciau. 

Gweler hefyd: 

6. Cyfathrebu ehangach

Bydd y rheoleiddwyr  Cymwysterau Cymru  yng Nghymru, Ofqual  yn Lloegr , a  CCEA  yng Ngogledd Iwerddon yn rhannu gwybodaeth amserol a chywir yn ôl yr angen gyda sefydliadau dyfarnu, adrannau o'r llywodraeth a rhanddeiliaid eraill.  

Bydd yr  Adran Addysg  yn Lloegr, yr  Adran Addysg  yng Ngogledd Iwerddon a  Llywodraeth Cymru  yn rhoi gwybod i weinidogion perthnasol y llywodraeth cyn gynted ag y bydd amhariad lleol neu genedlaethol yn amlwg o ddigwydd; a sicrhau y cânt eu diweddaru tan i'r mater gael ei ddatrys. 

Bydd sefydliadau dyfarnu yn rhoi gwybod i Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau (UCAS) a'r Swyddfa Geisiadau Canolog  (CAO) am unrhyw effaith y caiff yr amhariad ar eu terfynau amser ac yn trafod datblygiad y myfyriwr i addysg bellach ac addysg uwch. 

Bydd sefydliadau dyfarnu yn rhoi gwybod i gyrff proffesiynol perthnasol neu grwpiau cyflogwyr os bydd yr amhariad yn effeithio arnynt yn benodol.  

7. Amhariad cenedlaethol eang i sefyll arholiadau/asesiadau

Barn y llywodraethau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yw y dylai addysg barhau yn 2020/21, gydag ysgolion yn aros ar agor, ac y bydd arholiadau ac asesiadau'n mynd rhagddynt yn hydref 2020 a haf 2021. 

Gan fod addysg wedi’i datganoli, mewn achos o unrhyw amhariad cenedlaethol eang parhaus i arholiadau neu asesiadau, bydd adrannau'r llywodraethau cenedlaethol yn cyfathrebu â rheoleiddwyr, sefydliadau dyfarnu a chanolfannau cyn ei gyhoeddi. Bydd rheoleiddwyr yn darparu cyngor i adrannau'r llywodraethau ar oblygiadau ar gyfer amserlenni arholiadau. 

Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon gydag unrhyw gysylltiadau perthnasol pellach yn ôl yr angen pe bai tarfu cenedlaethol yn digwydd.