Ymateb Cymwysterau Cymru i’r adolygiad annibynnol
Dydd Gwener 22 Ion 2021Dywedodd David Jones Cadeirydd Cymwysterau Cymru a Philip Blaker, y Prif Weithredwr, "Rydym wedi dysgu llawer o wersi o haf 2020 ac rydym yn eu datblygu yn ein hymagwedd at 2021 ac yn ein ffordd o feddwl yn y tymor hwy.
"Daeth pandemig y coronafeirws â her newydd, aruthrol i bawb ar draws y system addysg. Fel y rheoleiddiwr annibynnol, rhaid inni gydbwyso llawer o faterion er mwyn darparu'r dull tecaf posibl.
"Mae gan adroddiad yr Adolygiad Annibynnol rai canfyddiadau ac argymhellion defnyddiol yr ydym eisoes yn mynd i'r afael â nhw. Byddem wedi croesawu mwy o ymgysylltu â'r panel adolygu fel bod yr holl faterion wedi eu hystyried yn llawn.
"Byddwn yn gwella sut rydym yn cyfathrebu ac yn ymgysylltu ag eraill, fel bod ganddynt y wybodaeth sydd ei hangen arnynt.
"Rydym bellach yn canolbwyntio ar sicrhau bod y trefniadau ar gyfer 2021 mor deg ag y gallant fod o dan yr amgylchiadau a’u bod yn diogelu lles dysgwyr ac athrawon a fydd yn pryderu am y misoedd i ddod.''